0
Eminem - Rap God (Cyfieithiad Cymraeg) - Lyrxo Translations
0 0

Eminem - Rap God (Cyfieithiad Cymraeg) Lyrxo Translations

Eminem - Rap God (Cyfieithiad Cymraeg) - Lyrxo Translations
[Intro:]
“Shgwla, o’n i am drin ti’n ysgafn am bido brifo twmlade ti.”
“Ond dyma’r unig siawns fydda i’n ga’l.”
“Ma rywbeth o’i le, wi’n gallu twmlo fe.”
Chwech munud. Chwech munud. Chwech munud, Slim Shady, tro ti!
“Rhyw dwmlad sy da fi – na gyd. Fel bo rywbeth ar fin digwydd, ond sa i’n gwbo be. Os bo hyn yn feddwl be wi’n credu, ŷn ni miwn trwbwl, trwbwl mowr; ac os bo hwnna'n gyment o ynfytyn â dwedi di, sa i’n cymryd unrhyw siawns.”
“Yn gwmws be argymhellodd y meddyg ŷt ti.”

[Cytgan:]
Dychre twmlo fel Duw rap, Duw rap yn codi ’to
Ma mhobol i gyd o’r bla’n i’r cefn yn nodio, nodio
Nawr, prun sy’n credu bo breichie fe gyhyd am baffio-cernodio, cernodio?
Os bo fi’n rapio fel robot, gall Rap-bot yn fy nynodi, sbo

[Pennill 1:]
I rapio fel cyfrifiadur, rhaid iddi fod yng ngennyne i
Ma da fi liniadur ym mhoced gefen i
A pin sgwennu o fewn drwch blewyn o ffynhonni
Ges i bres bras mas o’r blas ar rapio fel hynny
Des i hyd i fudd a llofrudd oddi arni
Er pan o’dd Bill Clinton miwn swydd yn ei Dŷ Gwyn e
Yn cael anwesu ei geillie gan Monica Lewinsky ar ei glinie
MC mor onest dw i o hyd
Ond mor anfoesog ac anniwair â'r holl uffern i gyd
Sillafe ffwrdd-â-hi (lladda nhw da'r)
Hip-hop ffflit-fflat, chwit-chwat ma
Ti rîli ddim moyn cymryd rhan mewn cystadlu pisho
Da’r cythraul bach rapio ’ma, sy’n paco MAC yng nghist yr Ac’
Yn malu cachu rap cnapsach grwgnach
A chwap wi'n ceisio prancie a campie geiriol gan ymarfer am bido bod yn rhy lac
I allu lluchio ryw ford, myn yffach
Ar gefen cwpwl o gadi ffans a torri ddi'n racs
O'n i heb ddyall yr eironi o'r enw Aftermath tan yn hwyrach
Fyddwn i ffowndro neu ffrwydro? dim ond geirie 'Ff' alla i'n bwrw
Newch chi dwmlo'n ymosodiad crac, sy
I rapwyr yn ca'l amser drwg y mish, yn dod â clwt Macsi
Ma pethe’n ofnadw o wael i’r rhai ishel-radd
Tra bo fi’n crefftio’n feistriolgar yr orchest ’ma fel
Comments (0)
The minimum comment length is 50 characters.
Information
There are no comments yet. You can be the first!
Login Register
Log into your account
And gain new opportunities
Forgot your password?